Dod o hyd i'r arian - codi arian eich hun

English version of this page

Gall bod yn anabl neu'n gofalu am berson anabl yn effeithio ar eich sefyllfa ariannol trwy:

  • Lleihau eich incwm
  • Cynyddu eich costau byw
  • Ei gwneud yn ofynnol i chi brynu eitemau drud
  • Cynyddu eich costau teithio

Mae hyn yn rhoi cyflwyniad ar sut efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i'r arian ychwanegol sydd ei angen arnoch. Mae'n canolbwyntio ar roi cyngor cychwynnol i helpu chi i drefnu eich menter codi arian eich hunain. Dylech hefyd ddarllen am ffynonellau cyllid statudol a ffynonellau cyllid elusennol.

Er y gall hyn gael ei ddefnyddio yn annibynnol ar y ddau arall, byddai'n ddoeth i ystyried ffynonellau statudol ac elusennol sy'n bosibl cyn penderfynu trefnu rhyw fath o weithgaredd codi arian.

Codi arian eich hun

Mae trefnu menter codi arian annibynnol, yn gallu bod yn gymhleth. Isod mae rhai o'r prif bwyntiau i'w hystyried cyn i chi drefnu eich digwyddiad cyntaf:

  • Mae dulliau codi arian o'r fath fel arfer yn gofyn cyhoeddusrwydd. Cyn dechrau mae angen ystyried y goblygiadau o ddatgelu gwybodaeth am eich hun, eich teulu a'ch amgylchiadau personol i'r cyhoedd yn gyffredinol. Ni fydd pawb yn hapus i dalu'r pris hwn.
  • RaisiGellir codi arian yn y ffordd hon fod yn eithriadol o anodd, felly mae angen ystyried ffurfio grŵp o bobl brwdfrydig a dibynadwy i rannu'r gwaith. Gwnewch bethau yn fwy 'swyddogol' drwy benodi cadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd ac egluro eich nodau a'ch amcanion. Bydd trefnu eich hunain mewn modd fel y buasai busnes yn gwneud yn rhoi mwy o hygrededd i chi.
  • Agorwch gyfrif banc penodol gydag enw perthnasol (fel "Cronfa Cadair Olwyn John") a trefnu'r cyfrif fel bod yn ofynnol i gael o leiaf dau lofnod i dynnu arian.
  • Cadwch gyfrifon manwl o'r holl incwm a gwariant fel y gallwch ddangos sut cafodd yr arian ei wario dylai unrhyw un  eich herio.

Mae yna gyfreithiau a rheoliadau gwahanol sy'n ymwneud â chodi arian. Mae rhai canllawiau syml isod, ond os ydych yn ansicr, gofynnwch am gyngor proffesiynol gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth:

  • Casgliadau ar y stryd - Er mwyn cynnal casgliad ar y stryd, rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol (neu yn Llundain, yr Heddlu Metropolitan). Cyhoeddir trwyddedau yn ddewisol ac nid oes gwarant y byddwch yn ennill un. Hyd yn oed gyda chaniatâd mae rheoliadau ynghylch sut y mae'n rhaid i'r casgliad gael ei gynnal. Bydd yr awdurdod sy'n cyhoeddi'r drwydded yn rhoi manylion i chi ar gais.
  • Casgliadau 'Drws i ddrws'  - P'un a ydych yn gofyn am arian, 'ffair sborion' neu eitemau eraill, rhaid i chi gael trwydded oddi wrth eich awdurdod lleol (neu yn Llundain yr Heddlu Metropolitan).
  • Casgliadau ar eiddo preifat - Nid yw'r rhain yn ddarostyngedig i reoliadau, ond rhaid i chi gael caniatâd perchennog yr eiddo. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf Elusennau 1993 yn datgan pan fydd eiddo preifat yn cael ei fwriadu ar gyfer defnydd y cyhoedd (fel canolfannau siopa a gorsafoedd rheilffordd) dylid cael trwydded casgliad stryd hefyd. Mae casgliadau mewn tafarnau yn cael eu cynnal fel arfer ar drwydded drws i ddrws, ond rhaid cael caniatâd y tafarnwr.
  • Blychau casglu sefydlog - Nid oes angen unrhyw fath o drwydded i adael blwch casglu ar cownter siop neu dafarn.
  • Loterïau - Mae hwn yn faes cymhleth a lywodraethir gan ystod o ddeddfwriaeth. Mae 'cystadleuaeth' nodweddiadol, lle mae tocynnau yn cael eu gwerthu i aelodau o'r cyhoedd dros gyfnod o fwy na diwrnod, angen cofrestru gyda'r awdurdod lleol. Bydd ffi cofrestru yn cael ei godi a bydd rhaid i chi gydymffurfio â'r rheoliadau a nodir ar y ffurflen gais. Os yw gwerthiant tocynnau yn mynd yn fwy na £ 20,000 rhaid i chi gofrestru gyda'r Bwrdd Hapchwarae.
  • 'Rafflau' a 'tombolas' - a ddiffinnir fel "loteri bach yn atodol i adloniant". Nid oes angen i chi gofrestru os nad y loteri yw prif atyniad y digwyddiad, na bod cyfanswm gwerth y gwobrau yn fwy na £ 250. Yn ogystal, rhaid gwerthu tocynnau a chyhoeddi'r ennillwyr yn ystod yr adloniant ac ar yr un diwrnod.
  • Digwyddiadau Cyhoeddus – mae ffeiriau sborion, arwerthiannau garej, ffeiriau, ciniawau codi arian a boreau coffi i gyd yn ddarostyngedig i'r un rheoliadau, yn bennaf mae hyn yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, fel y byddai unrhyw ddigwyddiad masnachol. Dylech gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus i dalu i chi os bydd rhywun yn cael eu hanafu, a gall hefyd fod yn angenrheidiol i gael person cymwys mewn Cymorth Cyntaf ar gael. Dylai unrhyw nwyddau a werthir fod yn ddiogel ac yn addas at y diben y maent yn cael eu gwerthu. Gyda hyn mewn golwg, gall fod yn well osgoi gwerthu offer trydanol neu nwy ail-law. Os yw'n debygol y bydd unrhyw broblemau traffig o ganlyniad i nifer y ceir sy'n mynychu, dylech gael cyngor  ynglŷn â hyn gan eich heddlu lleol. Yn gyffredinol os yw natur y digwyddiad yn gymhleth, yna mae mwy i'w hystyried. Os oes adloniant efallai y bydd angen Trwydded Adloniant Cyhoeddus (manylion o Adran y Prif Weithredwr yn eich awdurdod lleol). Mae gwerthu alcohol angen Trwydded Gwerthu Alcohol sy'n cael ei gyhoeddi yn ôl disgresiwn y Llys Ynadon lleol. Gall arddangosion modur neu mecanyddol neu reidiau fod angen tystysgrif diogelwch (a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Tystysgrifau Diwydiant Hamdden). Efallai y bydd hefyd angen i chi holi eich awdurdod lleol am rheoliadau sy'n ymwneud â chaniatâd cynllunio, masnachu ar y Sul neu is-ddeddfau lleol.
  • Digwyddiadau noddedig - Rydych yn rhydd i lunio a chyhoeddi ffurflenni noddi eich hun. Ond mae angen sicrhau eu bod yn datgan yn glir beth yw'r digwyddiad, pa bryd y bydd yn cael ei gynnal, beth mae'n codi arian ar ei gyfer a manylion cyswllt y trefnwyr. Cadwch mewn cof y cyngor a roddir ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus.
  • Cystadlaethau – Nid yw unrhyw gystadleuaeth sy'n cynnwys sgil yn hytrach na hap, angen cael eu gofrestru, ond yn dibynnu ar natur y gystadleuaeth efallai y bydd y cyngor a roddir ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus yn gymwys.

Cofrestru fel elusen

Efallai y bydd rhai grwpiau o bobl sy'n gwneud llawer o godi arian yn ystyried dod yn elusen gofrestredig yn eu rhinwedd eu hunain. Mae manteision posibl i wneud hyn, yn bennaf o ran trethi a hygrededd. Yn ogystal, mae nifer gwmnïau masnachol yn rhoi i elusennau cofrestredig yn unig.

Fodd bynnag, mae hefyd rhai anfanteision yn bosibl, o ran mwy o fiwrocratiaeth a chostau gweinyddu. Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu pecyn defnyddiol o'r enw Dechrau Elusen a Gwneud Cais ar gyfer Cofrestru. 

Gwybodaeth bellach

Raising Money for Good Causes: A Starter Guide
Jane Sutherland and Mike Eastwood
Directory of Social Change, 1998.
ISBN 1900360349

Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyngor ar Bopeth
Ffôn: 020 7833 2181
Ffacs: 020 7833 4371
Gwefan: www.citizensadvice.org.uk
Darganfyddwch eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Fel arall, gallech roi cynnig ar ganllaw cyngor  ar-lein, gan y Gymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyngor ar Bopeth.

Y Bwrdd Hapchwarae Prydain Fawr
Ffôn: 0121 230 6666
Ffacs: 0121 230 6720
E-bost: info@gamblingcommission.gov.uk
Gwefan: www.gamblingcommission.gov.uk

Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer Tystysgrifau Diwydiant Hamdden
Ffôn / Ffacs: 0191 523 9498
Gwefan: www.naflic.org.uk

Comisiwn Elusennau
Ffôn: (ymholiadau cyffredinol) 0845 300 0218
Ffacs: 0151 7031 555
Gwefan: www.charity-commission.gov.uk

Am fwy o wybodaeth am Scope

Cysylltwch â Scope Response am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar barlys yr ymennydd a materion anabledd. Mae copïau o'n holl daflenni gwybodaeth ar gael i'w llawr-lwytho o'n gwefan neu gan Scope Response.

Oriau Scope Response yw:

Dydd Llun - Dydd Gwener 9 yb – 5 yh.
Ar gau ar benwythnosau a Gwyliau Banc.

Scope Response
PO Box 833
Milton Keynes
MK12 5NY

Ffôn: 0808 800 3333 (Llinell Gymorth rhadffôn)

Ffacs: 01908 321051

E-bost: response@scope.org.uk

Mae Scope yn cydnabod cymorth a chefnogaeth pawb sydd wedi ymwneud â chynhyrchu'r wybodaeth hon. Er ein bod wedi cymryd gofal i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, ni all Scope dderbyn cyfrifoldeb am wallau neu hepgoriadau. Rydym bob amser yn argymell cael cyngor annibynnol gan weithiwr proffesiynol cyn cychwyn ar unrhyw broses, therapi neu ymyrraeth feddygol.

Mae gwybodaeth am Scope a pharlys yr ymennydd ar gael mewn rhai ieithoedd ar CD-ROM. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn i bobl sy'n siarad ieithoedd ar wahân i Saesneg. Cysylltwch â Scope Response am ragor o fanylion am y gwasanaethau hyn.

Cafodd y wybodaeth hon ei adolygu ddiwethaf ym mis Mehefin 2010.

© Rydym yn hapus i chi i wneud llungopïau o unrhyw ran o'r ddogfen hon. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn atodi cydnabyddiaeth o'r ffynhonnell i unrhyw gopïau