Dod o hyd i'r arian - ffynonellau statudol

English version of this page

Mae'r dudalen hon yn canolbwyntio ar ffynonellau statudol cyllid (cyllid sy'n dod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y llywodraeth neu eich awdurdod lleol).

Budd-daliadau

Y ffynhonnell fwyaf o arian ychwanegol ar gyfer pobl anabl a'u gofalwyr yw budd-daliadau'r wladwriaeth. Gall yr hawl i gael rhai budd-daliadau gael ei sbarduno gan anghenion gofal yr unigolyn (elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini, a budd-dal y gofalwr drwy Lwfans Gofalwyr) neu anghenion symudedd (elfen symudedd Lwfans Byw i'r Anabl). Mae eraill, megis Budd-dal Analluogrwydd, yn ymwneud â gallu'r person anabl i weithio. Nid yw rhai budd-daliadau yn benodol i bobl anabl ond gall fod yn arian ychwanegol defnyddiol i bobl ar incwm isel (Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Gyngor, Credyd Treth Gwaith).

Mae gyda phob un o'r budd-daliadau / credydau treth hyn eu meini prawf ei hunain sydd angen eu cyflawni os ydych am fod yn gymwys. Nid yw Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) yn cael prawf modd, felly gall person anabl hawlio hyd yn oed os oes ganddynt incwm da o ffynhonnell arall.

Nid yw'n bosibl i ysgrifennu'n gynhwysfawr ac yn bendant am fudd-daliadau yma, ond mae'n bwysig sicrhau eich bod yn derbyn holl fudd-daliadau'r wladwriaeth y mae gennych yr hawl i'w cael. Gallai methu â hawlio budd-daliad olygu na fyddwch yn cael budd-daliadau ychwanegol gan y wladwriaeth nac arian o ffynonellau eraill.

Mae rhai asiantaethau elusennol sy'n rhoi grantiau yn defnyddio hawl person i elwa fel rhan o'u meini prawf ar gyfer penderfynu i bwy y byddant yn rhoi arian. Hyd yn oed os ydych yn meddwl eich bod eisoes yn derbyn popeth mae gennych hawl iddo, mae'n werth i chi holi. Gallech wneud apwyntiad gyda chynghorydd yn eich Canolfan Gyfraith leol, sefydliad anabledd lleol neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Pan fyddwch yn gweld y cynghorydd sicrhewch eich bod yn mynd ag unrhyw lyfr talu budd-dal neu ohebiaeth gan yr asiantaeth budd-dal gyda chi. Efallai y gallant eich helpu i lenwi'r ffurflenni cais priodol.

Ffynonellau eraill o gyngor

  • DirectGov: darganfyddwch pa fudd-daliadau gallwch eu hawlio drwy ddefnyddio'r Cynghorydd Budd-daliadau. Mae'n darparu gwybodaeth am yr holl fudd-daliadau, ac yn esbonio at ba anabledd mae'r budd-daliadau'n berthnasol.
  • Mae Adviceguide yn cael ei redeg gan Cyngor ar Bopeth (Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyngor ar Bopeth gynt).
  • Llinell Ymholiadau Budd-daliadau: Rhadffôn 0800 882200, ffôn testun 0800 243355. Gallant roi cyngor cyffredinol i chi, ac maent yn cynnig gwasanaeth cwblhau ffurflenni ar gyfer rhai mathau o fudd-daliadau.
  • Turn 2 Us: Rhadffôn: 0808 802 2000. Cyngor ar sut i gael gafael ar yr arian sydd ar gael i chi – trwy fudd-daliadau lles, grantiau a mwy.

Cronfa Gymdeithasol

Mae hon yn gronfa gan y llywodraeth a all wneud taliadau i bobl mewn angen. Fe'i rhennir yn ddwy ran:

  • Y Gronfa Gymdeithasol Reoledig – gall y gronfa hon wneud taliadau ar gyfer treuliau mamolaeth, costau angladdau, cyfnodau o dywydd oer a thanwydd gaeaf. Mae gennych hawl cyfreithiol i'r taliadau hyn os ydych yn bodloni'r amodau perthnasol ar gyfer hawlio. Mae'r rheolau ar gyfer pob math o daliad yn wahanol, ond bydd angen i chi fod yn derbyn budd-dal cymhwyso.
  • Y Gronfa Gymdeithasol Ddewisol – gall y gronfa hon ddarparu taliadau cyfandaliad ar gyfer anghenion sy'n anodd eu talu o incwm wythnosol. Nid oes unrhyw hawl cyfreithiol i'r taliadau hyn, sydd yn ddewisol ac yn gyfyngedig i gyllideb. Mae tri math o daliad: benthyciadau cyllidebu, grantiau gofal cymunedol a benthyciadau argyfwng.

Mae Benthyciadau Cyllidebu yn ddi-log, ac yn fenthyciadau ad-daladwy a fwriedir ar gyfer pobl sydd wedi bod ar Gymhorthdal Incwm (IS) neu Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn seiliedig ar incwm, am beth amser. Eu bwriad yw helpu pobl i allu fforddio eitemau penodol gan ledaenu'r gost dros gyfnod o amser. Mae hi'n bosibl i gael benthyciad cyllidebu ar gyfer mathau penodol o dreuliau sydd o fewn categorïau penodol yn unig, h.y. dodrefn a chyfarpar cartref, dillad ac esgidiau, rhent ymlaen llaw a / neu costau symud i sicrhau llety newydd, gwella / cynnal a chadw / diogelwch eich cartref, costau teithio, costau yn ymwneud â cheisio neu ail-fynd i'r gwaith, neu ddyledion sy'n gysylltiedig ag unrhyw un o'r categorïau hyn.

Mae Grantiau Gofal yn y Gymuned yn cynorthwyo pobl i ddychwelyd i neu barhau i fyw yn y gymuned, neu'n lleddfu pwysau eithriadol ar y teulu. Mae benthyciadau cyllidebu yn ymdrin â threuliau tebyg, ond nid oes rhaid ad-dalu Grantiau Gofal yn y Gymuned. Er mwyn bod yn gymwys i hawlio Grantiau Gofal yn y Gymuned, mae'n angenrheidiol eich bod yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm.

Bwriad Benthyciadau Argyfwng yw talu costau mewn argyfwng, neu o ganlyniad i drychineb (megis tân yn y tŷ neu lifogydd), pan nad yw'r arian ar gael o rywle arall. Gallent hefyd fod yn angenrheidiol i atal risg difrifol i iechyd neu ddiogelwch yr ymgeisydd neu aelod o'u teulu. Nid yw'r 'brys' neu 'risg i iechyd neu ddiogelwch' wedi ei ddiffinio, felly mae'n rhaid i bob cais ddadlau ei haeddiant ei hun. Fodd bynnag, mae anghenion symudedd, gwyliau ac atgyweirio / gwella tai yn cael eu heithrio'n benodol. Efallai y byddwch yn gallu cael benthyciad argyfwng hyd yn oed os nad ydych yn derbyn budd-daliadau, ond cyn derbyn y benthyciad argyfwng, bydd eich amgylchiadau ariannol yn cael eu harchwilio.

Gallwch holi ynghylch â hawlio arian o'r Gronfa Gymdeithasol gan eich Swyddfa Nawdd Cymdeithasol leol. Gall cyngor gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth fod yn ddefnyddiol, yn enwedig os oes angen help arnoch gyda'r ffurflenni neu os ydych yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed ynghylch eich cais.

Rhai ffynonellau eraill o gymorth statudol

Credyd Treth Gwaith – Disodlwyd y Credyd Treth Person Anabl gan y Credyd Treth Gwaith ym mis Ebrill 2003. Mae hwn yn gynllun sy'n seiliedig ar brawf modd. Mae elfennau anabledd ychwanegol ar gael i bobl anabl sy'n gweithio ond sydd ar incwm isel ac sydd 'dan anfantais' o ran cyflogaeth oherwydd eu hanabledd. Fe'i gweinyddir gan Gyllid y Wlad.

Rhyddhad TAW - Efallai y bydd gennych hawl i gael gostyngiad treth pan fyddwch yn prynu eitemau penodol a fwriedir yn unig ar gyfer pobl anabl, megis cadair olwyn neu fysellfwrdd cyfrifiadur wedi ei addasu. Gall y rhan fwyaf o werthwyr offer anabledd eich cynghori, neu gallwch gysylltu â Tollau Tramor a Chartref, sy'n cyhoeddi llyfryn esboniadol (dyfynnwch rif cyfeirnod 701/7/94).

Grant Cyfleusterau i'r Anabl (DFG) - Mae hwn ar gyfer gwneud addasiadau yn nghartref yr unigolyn anabl. Mae dau fath o grant: y gorfodol a'r dewisol. Mae grantiau gorfodol ar gyfer addasiadau sylfaenol, sy'n cael eu hystyried yn hanfodol gan yr awdurdod lleol, i ganiatáu i berson gael mynediad i mewn i'w cartref a'u galluogi i fynd i'r toiled, cysgu a bwyta. Mae grantiau dewisol yn cael eu hystyried yn addasiadau nad ydynt yn hanfodol, ond yn ddefnyddiol, er enghraifft er mwyn adeiladu man chwarae diogel. Mae'r grant gorfodol yn destun prawf modd ar gyfer oedolion ond nid ar gyfer plant, ac yn dibynnu ar ganlyniad y prawf, gall swm y cymorth a gynigir amrywio o ddim i gost lawn y gwaith. Mae yna hefyd derfyn uchaf a roddir ar unrhyw DFG, ac ni fydd yr awdurdod lleol yn mynd drosto waeth beth yw angen yr ymgeisydd a aseswyd. Mae gan awdurdodau lleol y pŵer i osod eu cyflyrau eu hunain ar y Grant dewisol.

Motability – Sefydlwyd y fenter hon gan y llywodraeth, ond mae Motability yn sefydliad annibynnol. Mae'n helpu pobl anabl sydd ar y  gyfradd uwch yn elfen symudedd Lwfans Byw i'r Anabl i gael car. Mae dau fath o gynllun: cynllun llogi a chynllun llogi ar gyfer prynu. Gellid defnyddio'r cynllun llogi ar gyfer prynu er mwyn prynu cadair olwyn drydan yn ogystal, neu ar gyfer prynu car ail-law da i'w ddefnyddio yn lle car newydd. Os byddwch yn cofrestru gydag un o'r cynlluniau hyn, bydd eich elfen symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei thalu yn uniongyrchol i Motability. Mae meini prawf amrywiol y mae'n rhaid i chi eu cyflawni er mwyn bod yn gymwys, mae'r manylion ar gael yn uniongyrchol oddi wrth Motability.

Treth Cerbyd - Os yw'ch cerbyd yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion person anabl sy'n derbyn y gyfradd uwch yn elfen symudedd Lwfans Byw i'r Anabl, a dim arall, mae'n bosibl y byddwch yn derbyn 'disg treth' am ddim ar gyfer eich car. Dylech dderbyn y ffurflen gais briodol yn y post, heb i chi orfod gofyn amdani, ond os na fydd hi'n cyrraedd, neu os oes gennych ymholiad, cysylltwch â'r Uned Budd-daliadau Anabledd (VED).

Y Gronfa Byw'n Annibynnol (ILF) - gall y gronfa hon roi cymorth ariannol ar gyfer cymorth yn y cartref / gofal personol i bobl sydd â nam difrifol ac sydd ar incwm isel. Bwriad grantiau ILF yw galluogi pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi neu symud yn ôl i'r gymuned. Rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 16 a 66 mlwydd oed, ac mae'n rhaid iddynt dderbyn y gyfradd uchaf yn elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl. I wneud cais am y gronfa hon, bydd angen i chi gysylltu â'ch Adran Gwasanaethau Cymdeithasol leol a gofyn am weithiwr cymdeithasol i gynnal asesiad o'ch anghenion dan adran 47 o Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990.

Cronfa'r Teulu - Mae'r llywodraeth yn cyllido'r gronfa hon ac mae Sefydliad Joseph Rowntree yn gweinyddu'r grantiau. Mae'r Gronfa ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn dan 18 oed sydd ag anabledd difrifol.

Os na allwch gael y cyllid yr ydych yn ceisio'i gael o ffynonellau statudol, efallai yr hoffech edrych ar y posibilrwydd o godi arian o ffynonellau elusennol neu drefnu i godi arian eich hunain. Efallai gall yr ail a'r trydydd taflen ffeithiau yn y gyfres "Dod o hyd i'r Cronfeydd" eich cynorthwyo. Mae'r rhain ar gael oddi wrth Scope Response neu gellir eu llawr-lwytho o wefan Scope.

Gwybodaeth bellach

Ffederasiwn y Canolfannau Cyfreithiol
Ffôn: 020 7842 0720
Ffacs: 020 7842 0721
E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: www.lawcentres.org.uk
Gwybodaeth am eich canolfan gyfraith agosaf.

Cyngor ar Bopeth (Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyngor ar Bopeth gynt)
Ffôn: 020 7833 2181 Ffacs: 020 7833 4371
Gwefan: www.citizensadvice.org.uk
Manylion am eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Fel arall, gallwch ddefnyddio canllaw cyngor ar-lein Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyngor ar Bopeth: www.adviceguide.org.uk

Llinell Ymholiadau Budd-daliadau
Ffôn: Rhadffôn 0800 882200
Ffôn testun: 0800 243355.
Gallant roi cyngor cyffredinol am fudd-daliadau ar gyfer pobl anabl, a chynnig gwasanaeth cwblhau ffurflen ar gyfer rhai mathau o fudd-daliadau. Mae gwybodaeth gynhwysfawr am yr holl fudd-daliadau sydd ar gael gan y llywodraeth ar y wefan hon: www.direct.gov.uk (cliciwch Arian, Treth a Budd-daliadau)

Cynghrair Anabledd
Ffôn: 020 7247 8776
E-bost: office@disabilityalliance.org
Gwefan: www.disabilityalliance.org
Cyngor i bobl anabl, gofalwyr a chynghorwyr. Maent hefyd yn cyhoeddi'r Llawlyfr Hawliau Anabledd yn flynyddol.

Credyd Treth Gwaith
Cyllid y Wlad
Ffôn: 0845 300 3900
Ffôn testun: 0845 300 3909
Gwefan: www.hmrc.gov.uk/taxcredits/index.htm

Cyllid a Thollau
Mae pob ymholiad (a cheisiadau am lyfryn cyf: 701/7/94) yn cael eu trin ar lefel leol. Gallwch ddod i hyd i fanylion eich swyddfa agosaf drwy chwilio am Gyllid a Thollau EM yn eich llyfr ffôn lleol neu ymweld â'u gwefan genedlaethol: www.hmrc.gov.uk

Motability
Ffôn: 0845 456 4566
Ffôn testun: 0845 675 0009
Gwefan: www.motability.co.uk

Cronfa Byw'n Annibynnol
Ffôn: 0845 6018815
Ffacs: 0115 9450945 / 6
E-bost: client.service @ ilf.org.uk
Gwefan: www.ilf.org.uk

Cronfa'r Teulu
Ffôn: 0845 130 4542
Ffôn testun: 01904 658085
E-bost: info@familyfund.org.uk
Gwefan: www.familyfund.org.uk

Am fwy o wybodaeth am Scope

Cysylltwch â Scope Response am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar barlys yr ymennydd a materion anabledd. Mae copïau o'n holl daflenni gwybodaeth ar gael i'w llawr-lwytho o'n gwefan neu gan Scope Response.

Oriau Scope Response yw:

Dydd Llun - Dydd Gwener 9 yb – 5 yp.
Ar gau ar benwythnosau a Gwyliau Banc.

Scope Response
PO Box 833
Milton Keynes
MK12 5NY

Ffôn: 0808 800 3333 (Llinell Gymorth rhadffôn)

Ffacs: 01908 321051

E-bost: response@scope.org.uk

Gwefan: www.scope.org.uk

Mae Scope yn cydnabod cymorth a chefnogaeth pawb sydd wedi ymwneud â chynhyrchu'r wybodaeth hon. Er ein bod wedi cymryd gofal i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, ni all Scope dderbyn cyfrifoldeb am wallau neu hepgoriadau. Rydym bob amser yn argymell cael cyngor annibynnol gan weithiwr proffesiynol cyn cychwyn ar unrhyw broses, therapi neu ymyrraeth feddygol.

Mae gwybodaeth am Scope a pharlys yr ymennydd ar gael mewn rhai ieithoedd ar CD-ROM. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn i bobl sy'n siarad ieithoedd ar wahân i Saesneg. Cysylltwch â Scope Response am ragor o fanylion am y gwasanaethau hyn.

Cafodd y wybodaeth hon ei adolygu ddiwethaf ym mis Mehefin 2010.

© Rydym yn hapus i chi i wneud llungopïau o unrhyw ran o'r ddogfen hon. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn atodi cydnabyddiaeth o'r ffynhonnell i unrhyw gopïau