
Adnodd rhad ac am ddim a hawdd i’w ddefnyddio, yw imagine the difference, a gynlluniwyd i gynorthwyo athrawon Cyfnodau Allweddol 1 a 2 i gyflwyno gwersi, gwasanaethau a gweithgareddau amser cylch ynglŷn â dathlu amrywiaeth a gwahaniaeth mewn ffordd hwyliog, atyniadol sy’n procio’r meddwl.
Cafodd imagine the difference ei ysgrifennu a’i ddiwygio gan athrawon mewn ymgynghoriad â Scope, ac fe'i cynlluniwyd i blethu gyda chynlluniau addysgu gyda chyn lleied â phosibl o baratoi ar ran yr athrawon.
Mae’r adnodd yn draws gwricwlaidd ac yn cynnwys cysylltiadau addysgiadol clir, gan ganolbwyntio yn arbennig ar ABICh a Dinasyddiaeth. Mae’n cefnogi addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm, yn arbennig mewn Llythrennedd, Celf a Dylunio a Sgiliau Meddwl.
Amcanion imagine the difference yw: