Grwpiau Lleol yng Nghymru
Mae grwpiau lleol sy'n gysylltiedig a Scope yn amrywio o ran maint, gweithgareddau a darpariaeth gwasanaeth. Mae rhai yn fychan gyda chronfeydd cyfyngedig tra bod eraill yn sefydliadau mawr sy'n cyflogi gweithwyr. Gallwch gysylltu ag unrhyw un ohonynt drwy'r Scope Response
Care & Share Blaenau Gwent
Grwp hunangymorth ar gyfer rhieni a phlant anabl hyn.
CAPS (Grwp Cefnogi Plant a Rhieni)
Grwp cefnogi ar gyfer rhieni a phlant anabl o oedran cyn-ysgol, babanod ac iau. Wedi ei leoli yn y Rhondda, De Cymru.
Cymdeithas Sbastig Bae Colwyn a'r Ardal
Grwp cefnogi ar gyfer rhieni, gofalwyr, oedolion a phlant anabl
Cyfathrebu ac Ymrymuso Cymru
Grwp oedolion gyda diddordeb mewn ymgyrchu dros bobl anabl, yn gweithio drwy Gymru.
Clwb Nofio Anabl y Dreigiau
Clwb nofio ar gyfer oedolion a phlant hyn anabl, wedi ei leoli yng Nghaerffili.
Friday's Child
Grwp cefnogi ar gyfer rhieni plant anabl o bob oed. Grwp cymdeithasol wedi ei leoli yn Rhondda Cynon Taf.
Link Up
Grwp cefnogi yn cael ei gynnal gan oedolion anabl iau sy'n byw yn Sir y Fflint a Wrecsam.
Cymdeithas Longfields
Gwasanaeth dydd ar gyfer oedolion anabl yng Nghanolfan Longfields yn Abertawe.
Prosiect Cyngor Anabledd Sir Fynwy
Cyngor a gwybodaeth i bobl anabl, eu teuluoedd a gofalwyr ar bob mater sy'n ymwneud ag anabledd, gan gynnwys hawliau lles, budd-daliadau, cyfarpar a hyfforddiant/addysg.
Scope Ceredigion
Grwp cefnogi ar gyfer pobl anabl yng Ngheredigion.
SNAC (Clwb Gweithgareddau Anghenion Arbennig)
Gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer plant anabl, yn ogystal a chefnogaeth i siblingiaid a rhieni. Mae gan y clwb ei ganolfan ei hun sydd wedi ei hadeiladu i'r pwrpas gydag ystafell chwarae meddal, ystafell amlsynhwyraidd, celf a chrefft, cerddoriaeth. Mae'n cynnig gwyliau byr i'r teulu cyfan. Mae SNAC wedi ei leoli ym Mhort Talbot, ond mae'n cynnig cefnogaeth i deuluoedd drwy Dde Cymru.
SPAN (Cefnogaeth i Weithredu Rhieni drwy Rwydweithio)
Mae SPAN yn cynnig gwyliau seibiant mewn carafan ym Mhorthmadog yn ogystala chymorth ymarferol a chefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr ledled Sir Ddinbych.
Thrive Caerdydd (a elwid gynt yn Let's Play to Grow)
Cefnogaeth ar gyfer teuluoedd, gweithgareddau a chyfleusterau chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc a'u siblingiaid.
Voices / Llais
Grwp cefnogi a gynhelir gan bobl ifanc anabl yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
English version of this page at http://www.scope.org.uk/local/wales_lg.shtml
Home | East | West | London | South | Wales | North East | North West | Midlands | Membership
