Baywatch
Mae Baywatch, yr ymgyrch sy’n brwydro yn erbyn camddefnydd o gilfachau parcio hygyrch ar gyfer pobl anabl, wedi cael cryn gefnogaeth yng Nghymru.
Mewn arolwg anfonwyd 200 o holiaduron i gefnogwyr Hen Bryd Lefelu'r Sgor o bob rhan o'r wlad. Mae’r canlyniadau cynnar yn amlygu’r anghydraddoldeb y mae pobl anabl yn ei wynebu bob dydd wrth geisio mynediad i siopau a gwasanaethau.
Dywedodd un gŵr 91 oed ei fod “wedi gorfod aros am hyd at hanner awr cyn gallu parcio yn yr archfarchnad leol”. Achos hyn oedd bod pobl nad oeddent yn anabl yn defnyddio cilfachau hygyrch i bobl anabl oedd wedi eu marcio’n glir.
Gofynnwyd i staff a gweinyddion parcio sut oeddent yn delio a chamddefnydd o gilfachau parcio. Roedd y rhan fwyaf yn gefnogol iawn wrth ystyried y problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Fodd bynnag, teimlai’r rhelyw ohonynt na fedrent wneud dim i helpu. Dywedodd un gweinydd: “does dim y gallwn ni ei wneud. Os rhown ni sticeri ar y ceir sydd wedi eu cambarcio, mae’r perchnogion jest yn eu taflu ar y llawr.”
Ar nodyn mwy positif, canfu rhai o gyfranogwyr Baywatch fod rhai siopau yn rhoi dirwyon am barcio mewn cilfachau hygyrch. Gobeithiwn y bydd yr ymgyrch yma’n annog mwy o siopau i geisio rhoi terfyn ar gamddefnyddio mannau parcio hygyrch.
Da iawn i’r holl staff a chefnogwyr a roddodd o’u hamser i gynnal arolwg o feysydd parcio yn eu hardaloedd lleol. Mae canlyniadau arolwg Baywatch eleni ynghyd a chanlyniadau arolygon blaenorol i’w gweld yn www.baywatchcampaign.org .
Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Hen Bryd Lefelu'r Sgor, ewch i www.timetogetequal.org.uk .
