Yn Wlyb Domen! - Noson Allan Free2Pee yng Nghaerdydd
Adroddiad gan Kelly Atherton, Gweithwraig Maes Gymunedol
Fe gychwynnodd ein grŵp o ddeuddeg crwydryn gwrol ein dydd yn Stadiwm y Mileniwm lle cawsom daith o dywys am ddim. Roedd mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn yn wych gyda lifftiau mawr, toiledau da a digonedd o fannau gwylio.
Daeth Jon Owen Jones, AS Canol Caerdydd, Mandi Glover (Cadeirydd) a Richard Berry (Is-gadeirydd) o’r Pwyllgor Partneriaeth i ymuno â ni.
Aethom ymlaen i orsaf Caerdydd Canolog. Bu rhaid i rai o’n cwmni deithio allan ar y ffordd gan fod cyn lleied o gyrbau palmant Caerdydd wedi cael eu gostwng.
Fe’n croesawyd gan Reolwr Cyffredinol yr orsaf a ddangosodd i ni nodweddion hygyrch yr orsaf, gan gynnwys y toiled. Fe dynnodd Ceri, defnyddiwr gwasanaethau (sydd wedi derbyn hyfforddiant Archwiliad Mynediad), sylw’r rheolwr at nifer o welliannau y gellid eu gwneud.
Ymlaen yna am bryd blasus yn nhafarn Walkabout yn Heol y Santes Fair. Fe ddangoswyd i ni’r gwelliannau diweddar (y pwysicaf oll fod clo ar y toiled!)
Gwaetha’r modd fe ddechreuodd hi lawio o ddifri yn ystod ein cinio ac o hynny ymlaen fe ddaeth diffyg hygyrchedd i dafarnau’n fwy amlwg byth wrth i ni straffaglu mewn dillad gwlyb!
Roedd nifer na lwyddon i fynd i mewn iddynt oherwydd stepiau neu staerau. Roedd sawl un heb doiled i’r anabl o gwbl felly doedd dim llawer o bwrpas mewn parhau.
Daethom o hyd i doiled diddorol yn un o’r bariau (ond chawson ni ddim tynnu llun ohono) a oedd yn gartref hefyd i nid un ond dwy fwced mop a stôl far!
Cawsom drafodaeth gyda’r staff ym mhob un o’r tafarnau yr aethom iddynt - roedd rhai’n ymwybodol o ddeddfwriaeth Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd; doedd gan eraill ddim syniad - ac fe adawsom lwyth o wybodaeth ym mhob un o’r lleoliadau.
Tua 4.30pm fe drodd y grŵp gwlyb tuag at y tacsis ac adref, wedi cael amser da er iddo fod yn brofiad llawn rhwystredigaeth.
