Scope - about cerebral palsy. For disabled people achieving equality.

Scope: About cerebral palsy. For disabled people achieving equality. Logo links to homepage
link to our disablism section
You are here: homepage  > local >  wales

Ticket2Ride

Bu diwrnod gweithredu Ticket2Ride ar y 1 Rhagfyr 2004 yn llwyddiant ysgubol. Yng Nghymru fe deithiodd 25 o brotestwyr i Lundain o orsaf drenau Caerdydd Canolog er mwyn tynnu sylw at y problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd wrth geisio defnyddio cludiant cyhoeddus.

Ar ôl gwrthdystiad y tu allan i orsaf drenau Caerdydd Canolog, fe ymunodd ein grŵp ni a 80 o brotestwyr eraill o bob rhan o’r wlad i gymryd rhan mewn protest fawr y tu allan i orsaf King’s Cross yn Llundain. Er i'r diwrnod fod yn un blinedig mwynhaodd pawb a chafodd dderbyniad da gan y cyhoedd yng Nghymru. Dosbarthwyd taflenni tu allan i Orsaf Caerdydd ac fe arhosodd nifer o bobl i drafod y materion gyda’r protestwyr.

Yn anffodus, cafwyd anhawster wrth deithio i Lundain gan na fedrodd pawb yn ein grŵp ni fynd ar yr un tren. Llwyddodd rhai i fynd ar yr un tren, ond hyd yn oed wedyn fe'u gwahanwyd i gerbydau gwahanol gan nad oedd digon o le ar gyfer cadeiriau olwyn. Cafwyd problemau hefyd ar y daith o Paddington i King’s Cross. Roedd bysiau a thacsis yn anodd mynd iddynt am nad oedd y gyrwyr yn gwybod sut i ddefnyddio’r rampiau neu am nad oedd y rampiau’n gweithio. Hyd yn oed pan oedd y rampiau’n gweithio doedd ond lle i ddwy gadair olwyn ar y tro ar y bysiau. Fe ddangosodd yr anawsterau hyn i gyd fod yna ddiffyg cydraddoldeb rhwng pobl anabl a phobl abl wrth deithio ar gludiant cyhoeddus.

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr ymgyrch lwyddiannus iawn.

Fe gewch ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Ticket2Ride genedlaethol yn www.timetogetequal.org.uk/news/05/121204.shtml

Fe dre nwyd Ticket2Ride fel rhan o’r ymgyrch Hen Bryd Lefelu'r Sgor.