Canolfan Datblygu Sgiliau Y Sili

Mae Canolfan Y Sili yn darparu ystod eang o weithgareddau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r Tîm Cyd-gysylltwyr a Gweithwyr Cymorth yn cydweithio'n agos iawn gyda defnyddwyr y gwasanaeth i greu rhaglenni datblygu personol a gweithgareddau yno sy'n addas i'w hanghenion amrywiol.

Gall defnyddwyr y gwasanaeth ennill sgiliau mewn celfyddydau, crefftau, crochenwaith, cyfathrebu, coginio, dyletswyddau derbynfa, cerddoriaeth, canu, ffotograffiaeth, gwaith prosiect, cynnal a chadw sylfaenol, rhyngweithio cymdeithasol, er mwyn byw’n annibynnol a llawer mwy.

Mae gennym ystafell TG mawr lle mae defnyddwyr gwasanaeth yn datblygu eu sgiliau cyfrifiadurol, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a deheurwydd llaw.

Mae gardd fawr a pwll gennym hefyd. Mae'r defnyddwyr gwasanaeth yn mwynhau y gofod hwn a hyd yn oed yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau sy'n cael eu defnyddio yn eu sesiynau coginio.

English version of this page

 

How to find us

Javascript is required to view this map.
Get directions on Google Maps