Prosiect Sharing Art
Dechreuodd y prosiect hwn ei fywyd yn Ysbyty Hensol, ysbyty arhosiad hir ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Pan gaeodd yr ysbyty symudodd rhai trigolion i Fynydd Cynffig, a chefnogwyd hwy gan Sharing Art wrth iddynt addasu i fyw yn eu cymuned newydd. Mae rhai o'r bobl hyn yn parhau i ddefnyddio'r prosiect, gan weithio gyda phobl anabl eraill a gwirfoddolwyr i archwilio eu creadigedd a herio canfyddiadau o anabledd drwy gyfrwng celf.
Os hoffech wybod mwy am y prosiect, ffoniwch 01656 741166 neu ysgrifennwch at:
Canolfan Rees
Mynydd Cynffig
9A Prince Road
Mynydd Cynffig
Pen-y-bont ar Ogwr
CF33 6ED

We're social, follow us!