Dewisiadau Cymunedol
Mae'r prosiect hwn yn hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth a chyfle cyfartal ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yn Sir Rhondda Cynon Taf. Mae ein Gweithiwr Cymorth Gweithgareddau yn cefnogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd cymdeithasol, chwaraeon, addysgol a datblygiad personol eu dewis ei hunain yn eu cymunedau lleol a thu hwnt.
Mae cynlluniau datblygu yn y dyfodol yn cynnwys sefydlu sylfaen gwirfoddol a chefnogi pobl i adeiladu a datblygu eu grwpiau gweithgarwch eu hunain yn seiliedig ar diddordebau a rennir. Gallai'r rhain gynnwys cynnal boreuon coffi rheolaidd, mynd i'r sinema, neu mynychu dosbarthiadau dydd neu gyda'r nos.
See the English version of this page

We're social, follow us!