Craig y Parc Therapiau

Mae ymagwedd gyfannol Craig y Parc at fyfyrwyr wedi dod â statws Canolfan Ragoriaeth MOVE (Cyfleoedd Symudedd drwy Addysg). Mae therapyddion ffisio, galwedigaethol a lleferydd arbenigol; therapïau aml-synhwyraidd, cyffwrdd, hydro, cerddoriaeth a therapïau hail-rwymo, yn cael eu darparu i gyd ar y safle. Mae rheoli ymddaliad a lles corfforol hefyd yn rhan o weithgarwch dyddiol.

Mae'r therapyddion hefyd yn ymwneud yn agos â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol allanol. Yn aml maent y cyntaf i nodi newidiadau corfforol sylweddol mewn myfyriwr a chysylltu â therapyddion lleol neu dimau meddygol sy’n hanfodol i fonitro anghenion clinigol, llawfeddygol neu offer. Mae adroddiadau rheolaidd yn cael eu darparu a, lle bo angen, mynychu clinigau gyda'r disgyblion. Os yw disgybl yn symud oddi wrth Craig y Parc, mae therapyddion neu gynorthwywyr cymorth y man pontio yn cael eu gwahodd i'r ysgol cyn fod y trosglwyddo yn digwydd, i'w galluogi i weithio gyda tîm yr ysgol a dod i adnabod y disgybl.

Yn ogystal, mae'r tîm yn darparu adroddiadau manwl ar gyfer rhieni, gofalwyr, therapyddion a gweithwyr proffesiynol cymunedol eraill, gan roi manylion offer, technegau trin a therapi a manylion thechnoleg.

English version of this page