Face 2 Face Pen-y-bont
Mae Face 2 Face yn cynnig gwasanaeth cyfeillio un-i-un i rieni sy'n darganfod bod eu plentyn yn anabl.
Mae pob cyfaill Face 2 Face yn fam neu tad i blentyn anabl. Maent yn deall sud i ymdopi â diagnosis newydd neu ddod o hyd i ffordd o gwmpas y cyfnod pontio. Gallant gynnig cefnogaeth un-i-un, rhiant i riant. Mae gan y cyfeillion wybodaeth lleol dda iawn. Lle bo modd maent yn gwneud pob ymdrech i gynnig gwybodaeth ac arwyddbostio ar amrywiaeth o wasanaethau a materion anabledd. Mae'r gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda chyrff gwirfoddol a statudol eraill yn lleol ac yn genedlaethol. I'r gwasanaethau lleol a gweithwyr proffesiynol a hoffai gael mwy o wybodaeth am y cynllun hwn, gan gynnwys manylion ar sut i gyfeirio rhieni neu weithio mewn partneriaeth cysylltwch â cydlynydd y cynllun.
Mae Face 2 Face yn ceisio ehangu'r rhwydwaith ar draws Cymru. Os ydych yn rhiant i blentyn sydd ag anghenion cymorth ychwanegol, byddwch yn ymwybodol o bwysigrwydd cefnogaeth. Os ydych yn rhiant neu'n weithiwr proffesiynol ac yn teimlo byddai eich ardal yn elwa o wasanaeth Face 2 Face, ffoniwch Maizie Elfin ar 029 2081 5455 neu e-bostiwch maizie.elfin@scope.org.uk am fwy o wybodaeth.

We're social, follow us!