Rhannu Celf yn y Ganolfan Rees
Mae’r Prosiect Rhannu Celf yn y Ganolfan Rees, Mynydd Cynffig yn galluogi oedolion anabl i fynegi eu hunain trwy gyfrwng celf. Rhai o'r cyfryngau a ddefnyddir yw ‘batik’, ‘mudrock’, peintio, mosäig, gwneud crefftau, tecstilau, crochenwaith a gemwaith. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn rhannu arbenigedd ac adnoddau.
Rhan hanfodol o'r prosiect hwn yw ein tîm o wirfoddolwyr sy'n cefnogi aelodau prosiect a'r Hwylusydd Celf. Mae llawer o'n gwirfoddolwyr yn anabl, ac rydym yn hyfforddi ac yn cefnogi ein gwirfoddolwyr i gyflawni eu hamcanion personol eu hunain. Mae rhai gwirfoddolwyr wedi symud ymlaen i gyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddoli eraill, gan ddefnyddio’r sgiliau a'r hyder iddynt ennill drwy eu swyddogaeth wirfoddoli.

We're social, follow us!