Ysgol Craig y Parc

Craig y Parc school

Ysgol Bywyd

Gradd: Da gyda nodweddion rhagorol

“Mae Craig y Parc wedi rhoi’r cychwyn gorau posibl i ni.”

Mae Ysgol Craig y Parc yn fan lle gall blant ac oedolion ifanc ddod i ddysgu, byw a chael y gorau o fywyd. Wedi’w leoli ar gyrion Caerdydd, mae Craig y Parc yn cyfuno amrywiaeth o addysg, gweithgareddau cymdeithasol a gofal preswyl ar gyfer disgyblion â Pharlys yr Ymennydd a chyfylrau tebyg eraill.

Mae Ysgol Craig y Parc yn gweithio gyda disgyblion, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i ganolbwyntio ar ddysgu, gallu ac annibyniaeth. Gyda lle yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer 56 o ddisgyblion 3-19 oed, mae’r ysgol yn llawn adnoddau ac wedi’w staffio’n rhagorol.

Pob plentyn yn cyfrif

Mae'r ysgol yn canolbwyntio ar alluoedd pob plentyn ym mhob cam o'u datblygiad, gan greu cwricwlwm ar gyfer yr holl fyfyrwyr yn seiliedig ar "Pob plentyn yn cyfrif".

Cwricwlwm

Mae pum prif meysydd cwricwlwm: Sylfaen, Cynradd, Uwchradd, 14-16 ac Ôl-16. Mae addysg ddargludol, synhwyraidd, a synhwyraidd symud gyda chyfathrebu i gyd yn rhan hanfodol o bob gweithgaredd dysgu.

Staffio

Maent i gyd yn cael eu cefnogi gan athrawon profiadol iawn a chynorthwywyr dysgu yn ogystal a thîm o therapyddion lleferydd, corfforol, iaith a cherddoriaeth; nyrsys, arbenigwyr cyfathrebu a thechnoleg; gofal cymdeithasol ac arbenigwyr clinigol; a therapyddion arogl a hydro.

MOVE

Mae'r Ysgol yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Cyfleoedd Symudedd Trwy Addysg (MOVE) - yr unig ysgol yng Nghymru.

Nid yn unig yw’r ysgol yn darparu lle diogel, ond maent yn herio’r myfyrwyr i gyrraedd eu potensial llawn.

English version of this page