Gweithio ar Les: cymorth cyflogaeth yng Nghymru

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg.

Rhaglen hyfforddi a chymorth cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru yw Gweithio ar Les. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu rhaglen o amgylch eich nodau gyrfa a sut y gallwch eu cyflawni.

Oherwydd Coronavirus, bydd sesiynau'n cael eu cynnal ar-lein neu dros y ffôn nes bydd rhybudd pellach.

Cymhwyster

Mae Gweithio ar Les yn agored i bobl sydd yn:

  • anabl - gan gynnwys os oes gennych nam corfforol neu synhwyraidd, anhawster dysgu neu awtistiaeth
  • byw yng Nghymru
  • 16 oed neu'n hŷn
  • yn ddi-waith

Os ydych chi'n Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) sy'n gweithio gyda disgyblion dros 16 oed, rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant trwy ein partneriaid The Legacy Group.

Cyngor a chefnogaeth cyflogaeth

Bydd Gweithio ar Les yn eich cefnogi i:

  • deall eich nodau gyrfa
  • magu hyder, pendantrwydd ac annibyniaeth
  • ysgrifennu eich CV
  • datblygu eich sgiliau cyfweld
  • dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi neu gyflogaeth a gwneud cais amdanynt
  • siarad am anabledd yn eich lle gwaith

Bydd ein cynghorwyr cyflogaeth arbenigol yn siarad â chi i drafod y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Byddwch chi'n cael sesiynau rheolaidd gyda'ch cynghorydd ac efallai cael cynnig sesiynau hyfforddi grŵp.

Ar hyn o bryd bydd sesiynau dros y ffôn ac ar-lein. Gallwn ddarparu addasiadau os bydd eu hangen arnoch, fel dehongliad fideo Iaith Arwyddion Prydain neu sgwrs fyw.

Gweithio gyda chyflogwyr lleol

Rydym am helpu busnesau lleol i gyflogi mwy o bobl anabl. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.

Ariannu gan Lywodraeth Cymru

Welsh Government logo - a dragon. Text reads Ariennir gan Lywodraeth Cymru, Funded by Wlesh Government

Wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â The Legacy Group

Legacy logo

Opens in a new windowOpens an external siteOpens an external site in a new window